Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 2 Tachwedd 2020
Amser:
13.15 -
17.05
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6501
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS |
Tystion: |
Ruth Marks, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Fiona Liddell, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) Noreen Blanluet, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru Jas Bains, Hafod Kate Griffiths, Y Groes Goch Brydeinig Carol Mack, Fforwm Cyllidwyr Cymru John Rose, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Rebecca Watkins, Moondance Foundation Richard Williams, Fforwm Cyllidwyr Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, nododd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3. Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AS.
1.4. Nododd y Cadeirydd, os bydd yn gadael y cyfarfod heb rybudd am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y bydd Huw Irranca-Davies AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 1
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Ruth Marks, Prif Weithredwr, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
· Fiona Liddell, Rheolwr, Helpforce Cymru
· Noreen Blanluet, Prif ymgynghorydd, Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru
2.2. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd y tystion i rannu enghreifftiau o arfer da a modelau ymgysylltu a chyd-gynhyrchu a ddatblygwyd ac a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig.
2.3. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, cytunodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y gwersi a ddysgwyd ynghylch rheolaeth ariannol yn ystod y pandemig.
3 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Kate Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, y Groes Goch Brydeinig
· Jas Bains, Prif Weithredwr, Hafod
4 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - sesiwn dystiolaeth 3
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Carol Mack, Cadeirydd, Fforwm Cyllidwyr Cymru
· Rebecca Watkins, Cyfarwyddwr y Sefydliad, Moondance Foundation
· Richard Williams, Prif Weithredwr, y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru
· John Rose, Cyfarwyddwr Cymru, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
5 Papur(au) i’w nodi
5.1 Tystiolaeth ychwanegol gan Gymorth i Fenywod Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i COVID-19
5.1.a. Nododd y Pwyllgor y dystiolaeth ychwanegol gan Gymorth i Fenywod Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i COVID-19.
5.2 Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19
5.2.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau at Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.
5.3 Gohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19
5.3.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas ag effaith COVID-19.
5.4 Papur briffio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ofal preswyl yng Nghymru a'r pandemig COVID-19
5.4.a. Nododd y Pwyllgor y papur briffio gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar ofal preswyl yng Nghymru a’r pandemig COVID-19.
5.5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau Covid-19
5.5.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad at y Llywydd mewn perthynas â rheoliadau COVID-19.
5.6 Gohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig
5.6.a. Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Gymorth i Fenywod Cymru ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.
5.7 Llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.
5.7.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch y Bil Cam-drin Domestig.
5.8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cysgu ar y stryd.
5.8.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch cysgu ar y stryd.
5.9 Llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag anghydraddoldeb yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru
5.9.a. Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru mewn perthynas ag anghydraddoldeb yn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU am y materion a godwyd.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar y sector gwirfoddol - trafod y dystiolaeth a gafwyd.
7.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.